Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee
Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg |
Priorities for the Children, Young People and Education Committee

CYPE 70
Ymateb gan : Stonewall Cymru
Response from : Stonewall Cymru

Cefndir

Stonewall Cymru yw’r elusen Cymru gyfan dros gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT). Sefydlwyd Stonewall Cymru yn 2003, ac rydyn ni’n gweithio â busnesau, sefydliadau cyhoeddus, ysgolion, Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac ystod eang o bartneriaid mewn cymunedau ar draws Cymru i wella profiadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws.

 

Trosolwg

   i.   Mae Stonewall Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn ar flaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

  ii.   Cyn etholiadau y Pumed Cynulliad, cyhoeddasom Maniffesto Stonewall Cymru 2016: Cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yng Nghymru[1]. Mae’r maniffesto yn amlinellu blaenoriaethau ar gyfer cydraddoldeb ar draws meysydd allweddol megis addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, a chydraddoldeb yng Nghymru ac yn rhyngwladol.  Seiliwyd yr argymhellion ar ein profiad o weithio gyda rhanddeiliaid ar draws Cymru ac arolwg o flaenoriaethau ein cefnogwyr ar gyfer cydraddoldeb LHDT.

iii.   Amlinellwn syniadau am flaenoriaethau i’r Pwyllgor isod, gan ystyried y rhain yn faterion y gellir rhoi sylw iddynt yn y 12 mis nesaf.

 

Rhaglen waith y Pwyllgor

 iv.   Addysg rhyw a chydberthynas yng Nghymru

Ar hyn o bryd, nid yw holl bobl ifanc Cymru yn derbyn addysg rhyw a chydberthynas gyflawn, o safon sy’n mynd tu hwnt i’r gofynion sylfaenol o dan y gyfraith. Yn aml, mae’r addysg sy’n cael ei ddarparu yn eithrio gwybodaeth am berthnasau rhwng pobl o’r un rhyw, neu’n diystyrru profiadau pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws. Mae pobl ifanc yn teimlo nad ydynt yn cael mynediad at wybodaeth fydd yn eu cefnogi i ffurfio perthnasau iach, gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth gywir ac i ddiogelu eu hunain rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

 

Mae’r newidiadau i’r cwricwlwm yng Nghymru yn cynnig cyfle euraidd i sicrhau bod gan ein holl ysgolion yr adnoddau a’r gallu i ddarparu addysg rhyw a chydberthynas addas i’r 21ain ganrif. Gall y Pwyllgor archwilio darpariaeth bresennol o addysg rhyw a chydberthynas, dulliau dysgu, enghreifftiau o arfer da a sut gallwn sicrhau bod addysg rhyw a chydberthynas o’r safon uchaf yn rhan annatod o ddysgu yn y cwricwlwm newydd fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.

 

  v.   Bwlio ar sail nodweddion gwarchodedig

Mae 87 y cant o staff ysgol uwchradd yng Nghymru yn dweud bod disgyblion yn ei ysgol yn profi bwlio oherwydd eu bod nhw’n lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol neu oherwydd bod rhywun yn credu eu bod (Stonewall Cymru, Yr Adroddiad Athrawon, 2014).[2] Mae  83 y cant o bobl ifanc draws yn profi aflonyddu geiriol a 35 y cant yn profi ymosodiadau corfforol yn yr ysgol (Youth Chances, 2014).[3]

 

Canfu adroddiad Estyn Gweithredu ar fwlio[4] (2014) bod anghysondebau mawr rhwng ysgolion  Cymru yn y ffordd maent yn mynd i’r afael â bwlio ar sail nodweddion gwarchodedig disgyblion (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol). Yn aml, yn ôl yr adroddiad, nid yw athrawon yn sicr beth sy’n cyfri fel digwyddiad o wahaniaethu neu fwlio ar sail nodweddion gwarchodedig, neu’n ansicr sut i ymateb iddynt. Mae’r mwyafrif helaeth o athrawon yn awyddus i daclo’r bwlio hyn, ond nid oes ganddynt y hyder neu’r arfau i wneud hynny. Er enghraifft, mae naw ymhob deg o staff ysgolion uwchradd yng Nghymru yn credu bod dyletswydd ar staff ysgol i atal bwlio homoffobaidd ac ymateb iddo, ond nid yw pedwar ymhob pump wedi derbyn unrhyw hyfforddiant penodol ar sut i wneud hynny (Yr Adroddiad Athrawon, 2014).

 

Rydyn ni’n gwybod o’n gwaith gydag ysgolion ledled Cymru bod yr hyfforddiant ac adnoddau iawn yn galluogi staff i daclo bwlio a gwahaniaethu, a chreu ysgolion cynhwysol i bawb. Gall y Pwyllgor ystyried pa gynnydd sydd wedi bod ers cyhoeddi Gweithredu ar fwlio, tystiolaeth am brofiadau plant a phobl ifanc o grwpiau sy’n profi gwahaniaethu ac enghreifftiau o arfer da ar daclo bwlio ar sail nodweddion gwarchodedig a dathlu gwahaniaeth mewn ysgolion.

 



[1] http://www.stonewallcymru.org.uk/cy/ein-gwaith/ymgyrchoedd/etholiad-2016

 

[2] http://www.stonewallcymru.org.uk/cy/our-work/stonewall-research/teachers-report

[3] http://www.youthchances.org/

[4] https://www.estyn.llyw.cymru/thematic-reports/gweithredu-ar-fwlio-mehefin-2014